Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-33-13 Papur 1

 

TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I’R PWYLLGOR CYMUNEDAU, CYDRADDOLDEB A LLYWODRAETH LEOL – RÔL COMISIYNYDD Y GYMRAEG A MATERION PERTHNASOL

 

Cyflwyniad

 

1.    Pwrpas y papur hwn yw gosod tystiolaeth ysgrifenedig gerbron y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar rôl Comisiynydd y Gymraeg a materion perthnasol. Mae’r papur yn ymdrin â’r berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg ac yn manylu ar faterion sy’n gysylltiedig â’i gwaith.

 

Cefndir

 

2.    Cafodd swydd Comisiynydd y Gymraeg ei greu gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Mesur y Gymraeg yn ddeddfwriaeth wirioneddol bwysig. Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â statws swyddogol y Gymraeg ac fe sefydlodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a ddisodlodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

3.    Apwyntiwyd Meri Huws i swydd Comisiynydd y Gymraeg a chychwynnodd ei swydd yn ffurfiol ar 1 Ebrill 2012. Sefydlwyd Is-adran y Gymraeg fwy o fewn Llywodraeth Cymru ar y dyddiad hwn hefyd. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn annibynnol o Lywodraeth Cymru.

 

4.    Mae rôl Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys ystod eang o swyddogaethau a phwerau gan gynnwys:

 

Y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg

 

5.    Mae natur y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Iaith Gymraeg yn cael ei lywodraethu, yn rhannol, gan y Mesur. Mae'r Mesur yn darparu manylion y cyfrifoldebau a roddir ar Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd o ran, ond heb fod yn gyfyngedig i, agweddau ar gyllid ac adrodd. Mae'r Mesur hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i argymhellion ysgrifenedig y Comisiynydd, sylwadau neu gyngor pan fydd Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â’r sylwadau ysgrifenedig hynny.

 


6.    Ar gyfer agweddau o’r berthynas nad ydynt wedi’u manylu yn y Mesur, mae Cytundeb Fframwaith wedi cael ei gytuno gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae'r cytundeb hwn yn canolbwyntio ar gyfarfodydd, rhannu gwybodaeth, cyd-weithio ac agweddau ar gyllid y Comisiynydd. Bydd y Comisiynydd yn cwrdd â'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ddwywaith y flwyddyn, neu'n amlach pe bai'r angen yn codi. Bydd y Comisiynydd hefyd yn cyfarfod ag uwch-swyddogion y Llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn chwarterol. Bydd staff y Comisiynydd yn cyfarfod â swyddogion y Llywodraeth yn ôl yr angen i drafod materion penodol.

 

7.    Mae'r Cytundeb Fframwaith yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Disgwylir i fersiwn terfynol gael ei gytuno a'i lofnodi maes o law.

 

Gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'r amserlen ar gyfer cyflwyno Safonau o dan y Mesur

 

8.    Fis Mai 2013, cyhoeddwyd y byddai’r Rheoliadau i gyflwyno’r set gyntaf o Safonau, ac i sicrhau bod y Safonau yn benodol gymwys i bersonau, yn cael eu gwneud erbyn diwedd 2014. Cyhoeddwyd amserlen yn amlinellu’r camau i’w cymryd er mwyn gwneud y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau ar y trywydd iawn i fodloni’r ymrwymiad hwn a gwneud y rheoliadau erbyn diwedd 2014. 

 

9.    Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda Chomisiynydd y Gymraeg, cytunwyd y bydd y Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad Safonau mewn perthynas ag Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru ddechrau 2014. Fel rhan o’r ymchwiliad, bydd y Comisiynydd yn cysylltu â’r sefydliadau hyn yn uniongyrchol i drafod y broses yn fanylach.

 

10. Unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben, bydd Gweinidogion Cymru yn cael adroddiad annibynnol, y bydd rhaid iddynt roi sylw dyledus iddo, gan y Comisiynydd.

 

11. Mae’r amserlen isod yn nodi’r prif gamau:

 

12. Mae’r Mesur yn ei wneud yn ofynnol i Gomisiynydd y Gymraeg baratoi cod ymarfer i gynorthwyo sefydliadau i gydymffurfio â Safonau. Unwaith caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud, Comisiynydd y Gymraeg fydd yn rhoi hysbysiadau cydymffurfio i sefydliadau.

 

13. Mae Comisiynydd Iaith Gymraeg hefyd wedi hysbysu swyddogion o gynnwys y rhaglen dreigl i gynllunio ymchwiliadau Safonau dilynol. Bydd manylion y rhaglen yn cael ei gyhoeddi gan y Comisiynydd maes o law. Bydd hyn yn amlinellu trefn blaenoriaeth o gyflwyno rheoliadau i wneud Safonau'n benodol gymwys i holl sefydliadau a restrir yn Atodlen 6 o'r Mesur Iaith Gymraeg 2011 (Cymru).

 

Tribiwnlys y Gymraeg

 

14. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg a fydd yn gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg. Bydd y tribiwnlys cyntaf i'w sefydlu o dan ddeddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

15. Bydd y Tribiwnlys wedi cael ei sefydlu’n llawn cyn i Gomisiynydd y Gymraeg roi hysbysiad cydymffurfio i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg . Bydd hyn yn sicrhau bod yr hawl i apelio ar gyfer y bobl hynny ar gael mewn perthynas â’r Safonau’r fydd wedi'u gosod. 

 

16. Bydd y Tribiwnlys yn cynnwys Llywydd, sy'n bodloni'r amod cymhwysedd penodiad barnwrol, ar sail 10 mlynedd; aelodau sydd wedi’u cymhwyso’r gyfreithiol, sy'n bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd, a all gadeirio gwrandawiadau tribiwnlys gadeirydd, ac aelodau lleyg.

 

17. Bydd y broses recriwtio ar gyfer y Llywydd yn cychwyn yn gynnar yn 2014. Bydd y Llywydd yn gyfrifol am wneud y rheolau sy’n llywodraethu’r arfer a'r weithdrefn sy’n cael ei ddilyn gan y Tribiwnlys. Bydd yr aelodau cyfreithiol a lleyg yn cael eu recriwtio yn ddiweddarach yn 2014.

 

Cyllid y Gymraeg 2014-2015

 

18. Isod mae cyllid ar gyfer yr Iaith Gymraeg a Dysg Cymraeg o fewn y MEG Addysg a Sgiliau fel y'u hamlinellir yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2015

 

 

2013-14

Cyllideb Atodol

Mehefin 2013

(£ ,000)

2014-15

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd

 

2015-16

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd

Iaith Gymraeg

8,864

8,914

9,049

Dysg Cymraeg

16,212

15,462

14,462

 

19. Fel y nodwyd yn y Gyllideb Ddrafft 2014-15, mae cyllid ar gyfer y Weithred 'Iaith Gymraeg' (o fewn y MEG Addysg a Sgiliau) yn cynyddu o £0.050m yn 2014-15 . Mae'r cynnydd hwn yn ymwneud â throsglwyddiad rheolaidd o'r un gwerth o'r weithred 'Dysgu Cymraeg' (o fewn y MEG Addysg a Sgiliau) i integreiddio'r grant blynyddol i'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer swyddog y dysgwyr gyda'r grant craidd a ddarperir i'r Eisteddfod Genedlaethol, fel rhan o’r ffocws parhaus ar resymoli grantiau.

 

20. Mae'r gyllideb ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg o fewn y Gyllideb Ddrafft 2014-15 wedi'i gynnwys o fewn y Weithred 'Iaith Gymraeg'. Fodd bynnag, mae swyddogion yn y broses o wahanu’r cyllid oddi wrth y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL)  yr 'Iaith Gymraeg' o fewn y Weithred yma, fel bod gan Gomisiynydd y Gymraeg BEL ar  wahân o 2014-15 ymlaen, er mwyn hybu tryloywder.

 

21. Er ein bod wedi ymrwymo i'r Gymraeg, ni allwn amddiffyn yr holl wasanaethau rhag effaith toriadau Llywodraeth y DU na'r goblygiadau o flaenoriaethu gwariant. O ganlyniad, roedd yn rhaid ymgymryd ag asesiad o'r gyllideb i ganfod lle gellid gwneud gostyngiadau a lle effaith unrhyw doriadau yn cael ei gweld lleiaf.

 

22. Fel rhan o'r adolygiad, penderfynwyd y byddai 10% o doriad i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg, sy’n cyfateb i £0.410 miliwn, yn medru cael ei wneud; hysbyswyd y Comisiynydd o’r bwriad hwn.

 

23. Rydym hefyd yn cynnig i leihau'r Weithred 'Cymraeg mewn Addysg' o £0.75m yn 2014-15, gyda  £50,000 yn cael ei drosglwyddo i’r Weithred 'Iaith Gymraeg' ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, fel yr amlinellir ym Mharagraff 19. Mae gostyngiad pellach o £1m wedi ei gynnig ar gyfer 2015-16. Mae'r gostyngiadau hyn wedi'u cyflawni drwy leihau'r cyllidebau ar gyfer rhai o'r rhaglenni i gefnogi'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, fel y rhaglen comisiynu adnoddau, y Cynllun Sabothol a thrwy arbedion a wnaed o ganlyniad i'r prosiect Hyrwyddwyr Dwyieithog mewn Addysg Bellach cyrraedd casgliad mewn rhai colegau AB. Ar hyn o bryd mae’r gyllideb Cymraeg mewn Addysg yn cael ei dargedu at gefnogi datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg o'r blynyddoedd cynnar i 19 mlwydd oed; gwella safonau mewn dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr 3-19 oed a Chymraeg i Oedolion; a datblygiad y seilwaith ategol drwy gomisiynu adnoddau addysgu a dysg, a darparu hyfforddiant i ymarferwyr.

 

Y Gynhadledd Fawr

 

24. Cynhaliwyd Y Gynhadledd Fawr ar 4 Gorffennaf 2013 yn Aberystwyth. Roedd y  gynhadledd yn ddiweddglo dau fis o weithgarwch i ymgysylltu â phobl ledled Cymru am ddyfodol yr iaith Gymraeg, mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011. Ar 23 Hydref, 2013 cafodd adroddiad yn amlinellu adborth cyfranogwyr ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn crynhoi'r safbwyntiau a fynegwyd drwy'r arolwg ar-lein, yn y gyfres o grwpiau ffocws lleol, yn y gynhadledd genedlaethol yn Aberystwyth, a thrwy ddulliau amrywiol eraill megis trydar ac e-bost.

 

25. Nododd yr adroddiad y farn gadarn ymhlith y cyfranogwyr oedd yr angen i wneud mwy i ymateb i natur newidiol y cymunedau; i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng yr iaith a'r economi; ac i adeiladu ar y llwyddiant y Gymraeg yn y system addysg. Roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylai hyn fod yn seiliedig ar fwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; cymorth ychwanegol ar gyfer oedolion i ddysgu Cymraeg ac i drosglwyddo/cyflwyno’r iaith o fewn teuluoedd; a chamau i hyrwyddo gwerth yr iaith Gymraeg.


 

26. Cafodd Datganiad Llafar ei wneud ar 12 Tachwedd 2013 yn amlinellu ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i’r Gynhadledd Fawr yn ogystal â chyfres o gamau gweithredu i gefnogi isadeiledd cymunedau Cymraeg eu hiaith ac annog y defnydd cynyddol o'r iaith Gymraeg . Mae'r rhain yn cynnwys:

-        technoleg Lleferydd i destun newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg.

-        ap i gasglu, cyhoeddi a rhannu gwybodaeth leol trwy gyfrwng y Gymraeg.

-        dau ap newydd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer plant o dan 7 oed.

-        ap templed fydd yn hwyluso datblygiad  nifer o aps dysgu cyfrwng Cymraeg newydd.

-        ap (a gwefan gysylltiedig) ar gyfer pobl ifanc i alluogi iddynt ddarganfod pa weithgareddau iaith Gymraeg sy’n digwydd yn eu hardal.

-        gwasanaeth ar y we i gasglu cynnwys a thueddiadau Cymraeg oddi ar Twitter.

Rydym hefyd yn ystyried comisiynu cyfres o fideos a fydd yn darparu cymorth ymarferol i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ar-lein ac ar eu teclynnau. A'r flwyddyn nesaf, bydd y gronfa yn gwahodd cynigion pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15.

 

Gweithredu Strategaeth y Gymraeg

 

27. Bydd adroddiad ar gynnydd Strategaeth y Gymraeg yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Rhagfyr.

 

Effaith datblygiad polisi ar yr iaith Gymraeg ar draws holl adrannau a phortffolios Llywodraeth Cymru

 

28. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen  a fu'n cyfarfod yn fisol rhwng Awst 2011 ac Awst 2012. Ystyriodd y Grŵp ddefnydd y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â nodi ffyrdd o wella gwasanaethau Cymraeg allanol, yn unol â'n cynllun iaith Gymraeg a'n strategaeth. Gwnaeth y Grŵp gyfres o argymhellion sy'n ffurfio'r Cynllun Gwella  Cymraeg cyfredol; cymeradwywyd argymhellion y Grŵp  gan y Bwrdd ym mis Hydref 2012. Nod y Cynllun Gwella yw cynyddu ymwybyddiaeth a gwella sgiliau ym maes cynllunio ieithyddol.

 

29. Mae Cynllun Gwella newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd sy'n canolbwyntio ar roi systemau ar waith i hwyluso'r gwaith o brif ffrydio'r Gymraeg. Bydd prosiect penodol yn cael ei sefydlu er mwyn ystyried dulliau asesu posib ac edrych ar ffyrdd i gryfhau'r cysylltiadau â phrosesau eraill Llywodraeth Cymru. Bydd asesu effaith yn helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cadw i'r egwyddor a nodir yn y Mesur sefna ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, bydd hefyd yn rhoi sail i alluogi Llywodraeth Cymru gydymffurfio â Safonau Cymraeg newydd pan gânt eu cyflwyno, ac yn galluogi’r Llywodraeth i asesu gwariant ar y Gymraeg ar draws portffolios yn fwy effeithiol.

 

30. Un o argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw cael Pencampwyr y Gymraeg ar draws adrannau'r Llywodraeth. Mae gan bob adran o fewn Llywodraeth Cymru Bencampwr y Gymraeg sydd yn uwch swyddog a enwebwyd gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol perthnasol; mae pob Pencampwr yn cael ei gefnogi gan Gydlynydd y Gymraeg. Un o dasgau allweddol y Pencampwyr yw chwilio am gyfleoedd i brif ffrydio materion yn ymwneud a’r Gymraeg ym mholisïau a phrosiectau newydd wrth iddynt gael eu datblygu, ac wrth ariannu gweithgareddau a wneir gan drydydd parti.

 

Materion y Gymraeg o fewn ardaloedd polisi eraill

 

Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg

 

31. Mae’r Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru o gael gwlad lle y mae addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn rhannau annatod o'r seilwaith addysg a man lle mae pob dysgwr yn datblygu ei sgiliau iaith Gymraeg i'w llawn botensial.

 

32. Cyhoeddwyd y trydydd adroddiad blynyddol, sy’n amlinellu cynnydd yn erbyn amcanion a thargedau'r Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg, ym mis Gorffennaf 2013. Mae cynnydd wedi ei wneud yn erbyn 63 o'r 74 o’r camau gweithredu (85 y cant) yn y rhaglen weithredu. Mae gwaith ar y 11 o’r camau gweithredu sy'n weddill yn cael eu datblygu yn ystod 2013-14.

 

33. Mae'r Strategaeth yn cynnwys targedau pum mlynedd sefydlog a rhai deng mlynedd yn seiliedig ar ganlyniadau sy'n cael eu defnyddio i fonitro cynnydd wrth weithredu'r Strategaeth. Mae gwerthusiad tair blynedd o’r Strategaeth wedi cael ei gomisiynu. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau a bydd yn cyfrannu at yr adolygiad o'r Strategaeth yn 2015.

 

34. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys:

Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Hyfforddiant ymarferwyr

·         Bydd Grant y Gymraeg mewn Addysg yn darparu mwy na £5.6m i awdurdodau lleol yn 2013-14 a 2014-15 i ymgymryd ag ystod o weithgareddau, gan gynnwys hyfforddiant i gynyddu nifer yr athrawon a staff cymorth sydd â sgiliau Cymraeg lefel uwch.

Cymraeg ail iaith

·         Mae cynnydd yn cael ei wneud ar y cynllun gweithredu i ymdrin â safonau gwael mewn Cymraeg ail iaith, sy'n nodi chwe amcan i fynd i'r afael â materion a wynebir gan ymarferwyr a dysgwyr Cymraeg ail iaith. Mae cyllideb o £400k wedi ei ddyrannu i weithredu’r cynllun gweithredu dros gyfnod o bedair blynedd.

Dysgu Seiliedig ar Waith ac Addysg Bellach

Cymraeg i Oedolion

Comisiynu adnoddau

·         Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gomisiynu adnoddau dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg mewn amryw o gyfryngau gan gynnwys llyfrau ac adnoddau digidol.

 

TAN 20 -  Cynllunio a’r Iaith Gymraeg

 

35. Mae rôl yr iaith Gymraeg yn y system gynllunio wedi'i nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru a TAN 20: Yr Iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd TAN 20 ddiwygiedig gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar 9 Hydref 2013. Drwy gyhoeddi TAN 20 ddiwygiedig, fe weithredodd Llywodraeth Cymru'r ymrwymiad a wnaethpwyd yn y Strategaeth Iaith Gymraeg ar gyfer 2012-17, Iaith fyw: Iaith Byw. Fel y soniwyd eisoes, dros y misoedd nesaf bydd Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn gan arbenigwyr cynllunio allanol a Chomisiynydd y Gymraeg, yn datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau cynllunio i'w helpu i asesu effaith.

 

Adolygiadau Polisi

 

36. Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith

 


37. Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd

 

38. Adolygiad Cymraeg i Oedolion

-        sefydlu endid i fod yn gyfrifol am gyfeiriad strategol a chynllunio ar gyfer y maes;

-        lleihau nifer y darparwyr i tua 10-14;

-        Gwella'r broses o gynllunio darpariaeth gan wneud defnydd o ddata Cyfrifiad 2011 ac ymchwil marchnad eraill;

-        ailedrych ar gymwysterau Cymraeg i Oedolion a newid y pwyslais o achredu tuag at asesu ar gyfer dysgu;

-        gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a chyflogwyr i ddatblygu strategaeth Cymraeg yn y Gweithle;

-        datblygu strategaeth e-ddysgu arloesol a fydd yn sicrhau bod e-ddysgu yn cydweddu â phrofiad y dysgwyr ar bob lefel, a

-        gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer a defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg

 

39. Cymraeg ail iaith

 

40. Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod Genedlaethol

 

41. Adolygiad y Mentrau